Croeso

Localized version screenshot

Mae WordPress yn blatfform cyhoeddi personol sy’n berffaith ar gryfer creu gwefannau a blogiau deniadol sy’n llawn nodweddion defnyddiol. Mae WordPress ar gael fel meddalwedd rydd, am ddim, ac yn y Gymraeg.

Os wyt ti eisiau creu gwefan neu flog Cymraeg yn ddi-drafferth, dyma’r pecyn i ti!

Llwytho i lawr

Gelli di lwytho WordPress i lawr drwy glicio ar y ddolen sydd ar y dde mewn oren.

Bydd angen i ti gofrestru gyda Lletywr Gwe er mwyn cael lle i osod WordPress ar y we, a llwytho’r pecyn hwn i fyny i’r wefan drwy FTP.

Gweler yr adran ‘Sut mae mynd ati’ isod am gyfarwyddiadau cryno sy’n disgrifio sut i osod y pecyn.

Mae dogfennaeth estynedig i’w gael drwy glicio ar y dolenni Adnoddau ar y chwith, ond nid yw’r rhain eto ar gael yn y Gymraeg.

Arddangosiad

Sut mae mynd ati

Mae WordPress yn nodedig am fod yn hawdd a chyflym iawn i’w osod, gyda’r broses osod enwog yn para pum munud yn unig!

Dyma gyfarwyddiadau cryno:

  1. Y cam cyntaf yw dewis Lletywr Gwe (Web Host) er mwyn cael rhywle i osod dy wefan WordPress.

  2. Y cam nesaf yw llwytho pecyn WordPress i lawr i dy gyfrifiadur ac yna defnyddio FTP i’w osod ar y gweinydd mae dy Letywr Gwe wedi darparu i ti. Byddi di’n synnu mor hawdd yw creu gwefan gyda chymaint o nodweddion defnyddiol.

  3. Darllena’r ddogfennaeth er mwyn dod yn arbennigwr WordPress go-iawn. Byddwn ni’n ceisio ychwanegu at y ddogfennaeth Gymraeg yn fuan.

Os ydi hyn i gyd yn swnio’n rhy gymleth, mae WordPress.com yn darparu gwefannau sylfaenol wedi’u lletya yn rhad ac am ddim. Mae’n fan cychwyn da ar gyfer dechreuwyr, ac fe elli di symud draw i ddefnyddio WordPress.org yn hawdd wrth i dy hyder a dy anghenion gynyddu.

Blog

Croeso i wefan WordPress.org Cymraeg

Ebrill 9, 2010

Croeso. Dw i dal yn datblygu a chyfieithu’r wefan yma. Diolch am dy amynedd. Pa fath o wefan WordPress faset ti wneud? Mae gen ti amser feddwl am dy syniad di…