Lletywyr Gwe

Mae Lletywyr Gwe yn gwmnïau sy’n cynnig llety i wefannau ar gyfrifiadur pwrpasol o’r enw gweiynyddion (servers). Mae’r rhain wedi’u cysylltu i’r we 24/7, fel bod y wefan ar gael i unrhyw ymwelwyr, hyd yn oed y rhai sy’n syrffio’r we yn y bore bach.

Mae nifer o letywyr gwe ar gael, ond mae’n well dewis un sy’n arbennigo mewn lletya blogiau WordPress. Mae WordPress yn awgrymu’r lletywyr canlynol, ac mae enw da i evohosting.co.uk hefyd. Fel arfer, mae modd talu am wasanaeth lletya sylfaenol am £7 y mis neu £10 am fwy o ofod a’r hawl i greu nifer o gronfeydd data. Mae rhai cwmnïau’n cynnig modd i dalu fesul blwyddyn, sydd fel arfer yn golygu y cewch 12 mis am bris 10.

Rydym ar hyn o bryd yn ceisio darbwyllo lletywyr gwe yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth WordPress Cymraeg wedi’i letya’n hwylus ac yn bwrpasol.