WordPress 4.0 yn Gymraeg

Mae Rhos Prys, cyfieithydd WordPress, yn dweud:

Beth sy’n newydd? – dyma’r blyrb gan WordPress:

Mae WordPress 4.0 yn cynnig profiad ysgrifennu a rheoli mwy llyfn.
Rheoli eich cyfrwng yn rhwydd

Gallwch weld eich cyfrwng o fewn un grid hardd hir. Mae rhagolwg manylion newydd yn ei gwneud hi’n haws edrych ar a golygu eich cyfrwng yn eu trefn.

Mae gweithio gyda mewnblaniadau yn haws nag erioed
Gludwch URL eich YouTube i linell newydd a gwyliwch e’n troi’n fideo mewnblanedig. Nawr gwnewch yr un peth gyda thrydariad. Mae mewnblannu nawr yn brofiad gweledol. Mae’r golygydd yn dangos gwir ragolwg o’ch cynnwys mewnblanedig, sy’n arbed amser a rhoi hyder i chi.

Rydym wedi ehangu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnal yn rhagosodedig, hefyd — gallwch fewnblannu fideos o CollegeHumor, rhestrau chwarae YouTube, a sgyrsiau TED. Gwiriwch y mewnblaniadau mae WordPress yn eu cynnal.

Canolbwyntio ar eich cynnwys
Mae ysgrifennu a golygu’n llyfnach a mwy cynhwysol gyda golygydd sy’n ehangu wrth i chi ysgrifennu, gan gadw’r offer fformatio ar gael drwy’r adeg.

Canfod yr ategyn cywir
Mae yna fwy na 30,000 ategyn rhad a chod agored ar gael yn y cyfeiriadur WordPress. Mae WordPress 4.0 yn ei gwneud hi’n haws i ddod o hyd i’r un sydd ei angen arnoch gyda metrig newydd, gwell chwilio a phrofiad pori mwy gweledol.

Diolch i Carl am ei help gyda hwn.

Gadael Ymateb