WordPress 4.3

Mae un o raglenni creu gwefannau mwyaf poblogaidd newydd gael ei ddiweddaru ymhellach ac yn parhau ar gael yn Gymraeg. Hyd at ddoe cofnodwyd fod 205 o wefannau yn defnyddio’r Gymraeg, cynnydd o 50 ers y llynedd, cynnydd da felly.

Fideo am WordPress 4.3

Y cynnwys newydd…

Cyfrineiriau Amgen

Cadwch eich gwefan WordPress yn fwy diogel drwy’n dull cyfrineiriau amgen. Yn lle derbyn cyfrineiriau drwy e-bost, byddwch yn cael dolen ailosod y cyfrinair. Pan fyddwch yn ychwanegu defnyddwyr newydd i’ch gwefan neu yn golygu proffil defnyddiwr, bydd WordPress yn cynhyrchu cyfrinair diogel yn awtomatig.

Dewislenni yn y Cyfaddaswr

Crëwch ddewislen, diweddarwch hi a’i ddynodi, y cyfan tra’n gwneud rhagolwg byw yn y cyfaddaswr. Mae cynllun llyfn y cyfaddaswr yn darparu rhyngwyneb cyfeillgar a rhwydd ar gyfer dyfeisiau symudol. Gyda phob fersiwn newydd mae’n dod yn haws a chynt i wneud eich gwefan yn union fel rydych am iddi fod.

Fformatio Llwybrau Byr

Mae eich llif ysgrifennu nawr wedi cyflymu gyda llwybrau fformatio byr yn WordPress 4.3. Defnyddiwch seren i greu rhestrau ac arwyddion rhifau er mwyn gwneud pennawd. Dim torri ar eich llif gwaith; bydd eich testun yn edrych yn wych gyda * a #.Eiconau Gwefan
Mae eiconau gwefannau’n cynrychioli eich gwefan mewn tabiau porwr, dewislenni nodau tudalen ac ar dudalen cartref dyfeisiau symudol. Ychwanegwch eich eicon unigryw drwy’r cyfaddaswr; bydd yn aros yn ei le pan fyddwch y newid thema. Gwnewch i’ch gwefan gyfan adlewyrchu eich delwedd.

Profiad gweinyddu llyfnach

Mae gwelliannau i’r golwg rhestr yn yr adran weinyddu’n gwneud eich WordPress yn fwy hygyrch ac yn haws gweithio arno ar bob dyfais.

Sylwadau wedi eu diffodd ar dudalennau

Bydd sylwadau wedi eu diffodd ar bob tudalen rydych yn eu creu. Cadwch sgyrsiau i’ch blog, lle ddylent ddigwydd.

Cyfaddaswch eich gwefan yn sydyn

Pryd bynnag fyddwch ar flaen y rhaglen, gallwch glicio’r ddolen cyfaddasu yn y bar offer i wneud newidiadau sydyn i’ch gwefan.

O Dan y Clawr

Dyfodol Tacsonomiau

Mae termau wedi eu rhannu ar draws tacsonomiau lluosog yn awr yn cael eu rhannu i dermau ar wahân.

Hierarchaeth Templed

Ychwanegwyd singular.php fel copi wrth gefn ar gyfer single.php a page.php.

WP_List_Table

Mae tablau rhestr yn dynodi colofn gynradd.

Gadael Ymateb