WordPress iOS yn Gymraeg

Mae WordPress iOS nawr ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPad touch.

Dewislenni WordPress iOS

Mae’r ap yn cynnig modd o weithio ar wefannau WordPress.com a gwefannau hunanwesteio ar sail WordPress.org. Mae hefyd yn cynnwys Darllenydd sy’n fodd o ddarllen cynnwys awduron eraill o fewn byd WordPress.

Dyma’r cyflwyniad swyddogol:

Mae ysbrydoliaeth yn taro — ar unrhyw adeg, yn unrhyw le. Rheolwch eich blog neu wefan WordPress o’ch dyfais iOS, adref neu ar daith: gallwch edrych ar eich ystadegau, cymedroli sylwadau, creu a golygu cofnodion a thudalennau a llwytho cyfryngau gwahanol. Y cyfan sydd ei angen yw blog neu wefan hunanwesteio WordPress 3.6 neu well. Gyda WordPress ar gyfer iOS mae gennych rym cyhoeddi yng nghledr eich llaw — lluniwch ddrafft o englyn byrfyfyr ar y trên, cymrwch lun yn ystod tro rhyw brynhawn ar gyfer cystadleuaeth yn y wasg. Gallwch ymateb i’r sylwadau diweddaraf neu asesu eich ystadegau i weld o le daw eich darllenwyr. Peidiwch ag anghofio â thagio eich cofnodion sy’n cael eu cyhoeddi o’r ap gyda #wponthego fel y gall y gymuned ganfod eich campweithiau.

Datblygiadau diweddaraf WordPress iOS 5.7:

• Mae modd hidlo’r Hysbysiadau yn ôl math: Sylwadau, Hoffi, Ailflogio, yn dwt!

• Roedd ein darllenydd weithiau’n methu gweld cofnodion newydd yn eich ffrydiau felly mae wedi bod i gael sbectol newydd. Gan gychwyn yn y fersiwn yma bydd yn adnabod cofnodion coll ac yn cynnig y dewis i chi o’u casglu.

• Gallwch nawr ddiweddaru llawer o osodiadau’ch gwefan WordPress.com site o fewn yr Ap.

• Er ein bod yn hoffi emoji, roedd gweld gwennoglun anferth yn rhythu arnom fel delwedd nodwedd yn ormod. Maen nhw nawr wedi eu tynnu o’r nodwedd honno.

• Rydym wedi cywiro nifer o wallau cynllun yn iOS 9oedd yn achosi tablau i edrych… bach yn hyll. Maen nhw lot deliach nawr.

Mae WordPress ar gyfer iOS yn broject Cod Agored, sy’n golygu y gallwch chi gyfrannu at ei ddatblygiad. Dysgwch ragor yn http://ios.wordpress.org. Angen cymorth gyda’r ap? Ewch i’n fforymau yn http://ios.forums.wordpress.org neu ein trydar @WordPressiOS.

—————————–

Gosod y Gymraeg:

Er mwyn defnyddio WordPress iOS yn Gymraeg mae angen paratoi ychydig ar eich iPhone, iPad neu iPad touch. Mae angen ei fod yn rhedeg iOS 8.2 neu well. Edrychwch yn Settings>General>About>Version. Os oes modd i chi ddiweddaru, gwnewch hynny.

Ewch i Settings>General>Language & Regions. O dan Preferred Language Order cliciwch ar Add Language… a gosod Cymraeg ar frig y rhestr. Bydd apiau a gwefannau yn defnyddio’r iaith gyntaf ar y rhestr.

 

Gadael Ymateb