Mae WordPress 4.4 yn gwneud eich gwefan yn fwy cysylltiol ac ymatebol.
Thema newydd…
Mae ein thema ragosodedig diweddaraf, Twenty Sixteen, yn ddiweddariad i’r thema blog clasurol.
Mae Twenty Sixteen wedi ei adeiladu i edrych yn dda ar unrhyw ddyfais. Bydd cynllun grid llyfn, pennyn hyblyg, cynlluniau lliwiau hwyliog a rhagor, yn gwneud i’ch cynnwys ddisgleirio.
Delweddau ymatebol
Mae WordPress nawr yn darparu ffordd amgen o ddangos delweddau o feintiau penodol ar unrhyw ddyfais, gan sicrhau meintioli perffaith bob tro.
Mewnblannu eich cynnwys WordPress
Nawr mae modd mewnblannu eich cofnodion i wefannau eraill, gan gynnwys gwefannau WordPress eraill. Gollyngwch URL cofnod i’r golygydd a bydd rhagolwg o’ch mewnblaniad yn ymddangos yn syth, gan gynnwys teitl, dyfyniad a’r ddelwedd nodwedd, os ydych wedi gosod un. Byddwn hyd yn oed yn cynnwys eich eicon gwefan a dolen ar gyfer sylwadau a rhannu.
Rhagor o ddarparwyr mewnblannu
Yn ogystal a chofnodi mewngofnodion, mae WordPress 4.4 yn cynnig cefnogaeth ar gyfer pump darparwr oEmbed: Cloudup, Reddit Comments, ReverbNation, Speaker Deck, a VideoPress.
Isadeiledd API REST
Mae Infrastructure ar gyfer API REST wedi ei gynnwys yn y craidd, gan greu cyfnod newydd wrth ddatblygu gyda WordPress. Mae API REST yn darparu llwybr i ddatblygwyr, ar gyfer adeiladu ac ymestyn APIau REST ar ben WordPress.
Infrastructure yw’r rhan gyntaf o ddarparu’r API REST. Bydd diweddbwyntiau craidd yn dod cyn bo hir. I gael golwg cynnar o ddiweddbwyntiau craidd ac am ragor o wybodaeth ar estyn API REST ewch i’r ategyn swyddogol WordPress REST API.
Meta termau
Mae termau nawr yn cynnal metadata, yn yr un ffordd a chofnodion. Gweler add_term_meta()
, get_term_meta()
, a update_term_meta()
am ragor o wybodaeth
Meta termau
Mae termau nawr yn cynnal metadata, yn yr un ffordd a chofnodion. Gweler add_term_meta()
, get_term_meta()
, a update_term_meta()
am ragor o wybodaeth
Gwella ymholiadau sylwadau
Mae gan ymholiadau sylwadau’r gallu i drin y storfa er mwyn gwella perfformiad. Mae ymresymiadau newydd yn WP_Comment_Query
yn gwneud creu ymholiadau sylwadau cadarn yn fwy syml.
Gwrthrychau termau, sylwadau a rhwydwaith
Mae’r gwrthrychau newydd WP_Term
, WP_Comment
, a WP_Network
yn ei gwneud hi’n haws a mwy dibynadwy i ryngweithio gyda thermau, sylwadau a rhwydweithiau mewn cod.
Gadael Ymateb
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.