DIWEDDARIAD 10/8/2021: Mae popeth i weld yn iawn nawr. Rydyn ni wedi trwsio’r broblem. Mae croeso i chi anwybyddu’r isod!
O ran WordPress Cymraeg 5.8 – os ydych chi’n lawrlwytho ac yn ceisio gosod y cod ar weinydd mae problem heddiw.
Bai fi yw e – mae’n flin gyda fi! Dw i’n ceisio datrys y broblem yn y pecyn Cymraeg cyn gynted.
Yn fras dw i wedi cyfieithu darnau bychain o’r ffeil wp-config-sample.php sydd angen aros yn Saesneg. Dw i am ddiweddaru’r system canolog cyn gynted ag y bo modd. Yn y cyfamser mae’n rhaid i chi olygu’ch ffeil wp-config.php â llaw – ni fydd y broses awtomatig o greu wp-config.php yn gweithio am y tro.
Nid yw hyn yn effeithio ar wordpress.com o gwbl.
Diolch i Owen Llywelyn am dynnu fy sylw at y broblem.
Gadael Ymateb
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.