Profi WordPress 6.1 Cymraeg

Bydd WordPress 6.1 yn cael ei ryddhau tua Thachwedd 1. Mae’r gwaith lleoleiddio wedi ei gwblhau i bob pwrpas ond byddai’n dda cael lygaid craff i edrych arno ac i rannu barn.

Mae’r fersiwn yma yn un datblygiadol ar hyn o bryd. Peidiwch ei osod, ei redeg na phrofi’r fersiwn yma o WordPress ar eich gwefan byw. Profwch y fersiwn diweddaraf, RC2 ar weinydd a gwefan prawf. 

Mae modd profi WordPress 6.1 RC2 a’r cyfieithiad Cymraeg mewn tair ffordd:

Dewis 1: Gosod ac agor yr ategyn WordPress Beta Tester (gan ddewis y sianel “Bleeding edge” a’r llif “Beta/RC Only”).

Dewis 2: Llwytho i lawr fersiwn RC2 (zip).

Dewis 3: Defnyddio gorchymyn WP-CLI:

wp core update –version=6.1-RC2

Os ydych yn sylwi, neu wedi sylwi yn y gorffennol, ar wallau sillafu, terminoleg anghywir neu fynegiant blêr, cysylltwch gyda manylion llawn fel ei bod hi’n hawdd i ni adnabod y mater dan sylw. Anfonwch eich sylwadau at post@meddal.com.

Y gobaith yw gwneud y fersiwn Cymraeg yn bleser i’w ddefnyddio!

Gadael Ymateb