WordPress Sensei LMS – creu cyrsiau a gwersi ar-lein

Mae’r ategyn Sensei LMS, yn cynnig y cyfle i greu a darparu cyrsiau, gwersi a chwisiau ar -lein ddifyr a deniadol.

Dewin creu gwersi Sensei

Mae’r ategyn yn gweithio ar sail meddalwedd gwefannau WordPress ac yn eich galluogi i ddarparu tudalennau gwybodaeth, cwisiau a phrofion, a’u crynhoi fel cyrsiau. Mae modd defnyddio’r cwisiau i fesur cynnydd eich dysgwyr ac mae modd defnyddio atebion lluosog, llanw’r bylchau, cywir/anghywir, atebion rhydd a llwytho ffeiliau ac ati i fesur cynnydd.

Ategion eraill cysylltiedig sydd ar gael yn Gymraeg yw un ar gyfer creu Tystysgrifau cyflawni, un ar gyfer atodi Cyfryngau ac ategyn sy’n hwyluso trosi Cofnodion gwefan WordPress yn gwrs dysgu.

Mae’n ffordd hwylus a rhad o ddarparu cyrsiau ar gyfer ystod eang o bynciau. Mae WordPress yn defnyddio Sensei ar gyfer eu hyfforddiant mewnol, fel cwmni.

Mae modd uwchraddio i Sensei Pro sy’n gynnyrch taledig er mwyn gwerthu cyrsiau a chael nodweddion ychwanegol o fewn y pecyn.