WordPress a’r GDPR

Mae WordPress wedi ryddhau diweddariad i gynorthwyo defnyddwyr WordPress sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau newydd sy’n dod i rym ar Fai 25. ‘Mond 7 diwrnod i fynd!

Mae’r diweddariad yn cynnwys rhoi dewis ar sut mae cwcis yn trin eu data personol, creu adran newydd i wefan ddarparu ei dudalen polisi preifatrwydd (Gosodiadau>Preifatrwydd), dull o drin data personol (Offer>Allforio Data Personol, Dileu Data Personol) a rhai cywiriadau.

Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd dudalen sy’n amlinellu’r newidiadau i’r rheolau diogelu data.

Ystadegau WordPress 4.5

Bydd WordPress 4.6 yn cael ei lansio Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.5. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 446 o becynnau ryddhau a 3,356 pecyn iaith hyd heddiw.

Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.5 yn 250 a 3,369, felly mae rhywrai wedi bod yn brysur yn llwytho i lawr y pecyn creu/diweddaru gwefan.

Cyfanswm byd-eang WordPress 4.5 heddiw yw 44,121,925 o becynnau ryddhau a 73,775,408 pecyn iaith.

Thema WordPress Amlieithog i Gymru

Thema Amlieithog

Mae Thema wedi ei ddatblygu er mwyn galluogi unigolion i greu gwefannau amlieithog eu hunan, gyda’r gobaith o symleiddio cyhoeddi cynnwys digidol yn Gymraeg. Gall hefyd, drwy gael ei gyfieithu, alluogi amlieithrwydd tu hwnt i’r deuawd arferol o Gymraeg/Saesneg – a chael gwefannau Cymraeg/Basgeg, Cymraeg/Catalaneg, ac yn y blaen.

Mae themâu pwrpasol hefyd ar gael ar gyfer blog ac e-fasnachu

Ewch i wefan Thema.Cymru i ddysgu rhagor.

Ystadegau WordPress 4.4

Bydd WordPress 4.5 yn cael ei lansio yfory, felly mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.4. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 250 o becynnau ryddhau a 3,369 pecyn iaith hyd heddiw.

Mae’r cofnod ar Haciaith.com ar 19 Awst am WordPress 4.3 yn cyfeirio at y ffaith fod 205 o becynnau ryddhau wedi eu llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.2. Cynnydd felly o 45 gwefan. Does gen i ddim ffigwr ar gyfer y pecynnau iaith. Mae WordPress.org wedi ei lwytho i lawr dros 42 miliwn (42,737,524) o weithiau ym mhob iaith.

Mae cyfieithiad WordPress 4.5 wedi ei drosglwyddo i WordPress.com. Does gen i ddim data o ran defnydd y rhyngwyneb Cymraeg ar WordPress.com.