WordPress 4.5

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

Diolch i Rhoslyn Prys, Carl Morris, Iwan Stanley a Gruffudd Prys.

Dyma sy’n newydd:

Gwelliannau Golygu

Dolennu Mewnlin

Canolbwyntiwch ar eich ysgrifennu gyda rhyngwyneb fydd yn tarfu llai a sy’n caniatáu i chi gysylltu’n haws â’ch cynnwys.

Fformatio Llwybrau Byr

Ydych chi’n mwynhau defnyddio llwybrau byr fformatio ar gyfer rhestrau a phenawdau? Mae nhw nawr yn fwy defnyddiol byth, gyda llinellau llorweddol a <code>.


Gwelliannau Cyfaddasu

Rhagolwg Byw Ymatebol

Bydd eich gwefan yn edrych yn dda ar bob sgrin! Gallwch weld rhagolwg yn syth ar eich dyfais symudol, tabled a bwrdd gwaith drwy’r cyfaddaswr.

Logos Penodol

Mae themâu nawr yn gallu cynnal logos ar gyfer eich busnes neu frand. Mae themâu Twenty Fifteen a Twenty Sixteen wedi eu diweddaru i gynnal logos penodol, sydd i’w gweld yn adran Hunaniaeth Gwefan y cyfaddaswr.


O Dan y Clawr

Adnewyddu Dewisol

Mae’r cyfaddaswr nawr yn cynnal fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno rhannau o’r rhagolwg heb ailysgrifennu eich cod PHP yn JavaScript. Gallwch ei weld ar waith gyda Dewislenni.

Newid Maint Delwedd Clyfar

Mae delweddau mawr yn llwytho hyd at 50% yn gynt gyda dim colled mewn ansawdd. Mae’n edrych yn dda.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae jQuery 1.12.3, jQuery Migrate 1.4.0, Backbone 1.2.3, ac Underscore 1.8.3 wedi eu cynnwys.

Gwelliannau i’r Llwythwr Sgriptiau

Mae gwell cefnogaeth wedi ei ychwanegu ar gyfer sgriptiau dibyniaethau pennyn/troedyn. Mae’r wp_add_inline_script() newydd yn caniatáu ychwanegu cod ychwanegol i sgriptiau cofrestredig.

WordPress 4.4

Mae WordPress 4.4 yn gwneud eich gwefan yn fwy cysylltiol ac ymatebol.

Thema newydd…

Mae ein thema ragosodedig diweddaraf, Twenty Sixteen, yn ddiweddariad i’r thema blog clasurol.

Mae Twenty Sixteen wedi ei adeiladu i edrych yn dda ar unrhyw ddyfais. Bydd cynllun grid llyfn, pennyn hyblyg, cynlluniau lliwiau hwyliog a rhagor, yn gwneud i’ch cynnwys ddisgleirio.

Delweddau ymatebol

Mae WordPress nawr yn darparu ffordd amgen o ddangos delweddau o feintiau penodol ar unrhyw ddyfais, gan sicrhau meintioli perffaith bob tro.

Mewnblannu eich cynnwys WordPress

Nawr mae modd mewnblannu eich cofnodion i wefannau eraill, gan gynnwys gwefannau WordPress eraill. Gollyngwch URL cofnod i’r golygydd a bydd rhagolwg o’ch mewnblaniad yn ymddangos yn syth, gan gynnwys teitl, dyfyniad a’r ddelwedd nodwedd, os ydych wedi gosod un. Byddwn hyd yn oed yn cynnwys eich eicon gwefan a dolen ar gyfer sylwadau a rhannu.

Rhagor o ddarparwyr mewnblannu

Yn ogystal a chofnodi mewngofnodion, mae WordPress 4.4 yn cynnig cefnogaeth ar gyfer pump darparwr oEmbed: Cloudup, Reddit Comments, ReverbNation, Speaker Deck, a VideoPress.

Isadeiledd API REST

Mae Infrastructure ar gyfer API REST wedi ei gynnwys yn y craidd, gan greu cyfnod newydd wrth ddatblygu gyda WordPress. Mae API REST yn darparu llwybr i ddatblygwyr, ar gyfer adeiladu ac ymestyn APIau REST ar ben WordPress.

Infrastructure yw’r rhan gyntaf o ddarparu’r API REST. Bydd diweddbwyntiau craidd yn dod cyn bo hir. I gael golwg cynnar o ddiweddbwyntiau craidd ac am ragor o wybodaeth ar estyn API REST ewch i’r ategyn swyddogol WordPress REST API.

Meta termau

Mae termau nawr yn cynnal metadata, yn yr un ffordd a chofnodion. Gweler add_term_meta(), get_term_meta(), a update_term_meta() am ragor o wybodaeth

Meta termau

Mae termau nawr yn cynnal metadata, yn yr un ffordd a chofnodion. Gweler add_term_meta(), get_term_meta(), a update_term_meta() am ragor o wybodaeth

Gwella ymholiadau sylwadau

Mae gan ymholiadau sylwadau’r gallu i drin y storfa er mwyn gwella perfformiad. Mae ymresymiadau newydd yn WP_Comment_Query yn gwneud creu ymholiadau sylwadau cadarn yn fwy syml.

Gwrthrychau termau, sylwadau a rhwydwaith

Mae’r gwrthrychau newydd WP_Term, WP_Comment, a WP_Network yn ei gwneud hi’n haws a mwy dibynadwy i ryngweithio gyda thermau, sylwadau a rhwydweithiau mewn cod.

WordPress Android 4.7

Mae’r diweddariad yma’n cynnwys y newidiadau canlynol:

*Mynd i’r ap i weld ystadegau heddiw? Gyda’r Teclyn Ystadegau newydd mae modd dilyn eich ystadegau o’r dudalen Cartref.

* Mae hysbysiadau’n wych. Hysbysiadau wedi eu hidlo? Gwell fyth. Helo, bar hidlo hysbysiadau newydd!

Mae WordPress ar gyfer Android yn rhoi grym cyhoeddi yn eich dwylo chi, gan ei gwneud yn hawdd i greu a defnyddio cynnwys. Ysgrifennu, golygu, a chyhoeddi cofnodion ar eich gwefan, gwiriwch eich ystadegau, a chael eich ysbrydoli gyda chofnodion gwych yn y Darllenydd. Ac y well na hynny? Mae’n god agored. Mae WordPress ar gyfer Android yn addas ar gyfer WordPress.com a gwefannau hunan gynhaliol WordPress.org sy’n rhedeg WordPress 3.7 neu uwch Ewch i’r fforymau i gael cymorth gyda’r ap: http://android.forums.wordpress.org

WordPress Android 4.5

Mae’r ap WordPress ar gyfer Android wedi cael ei ddiweddaru i fersiwn 4.5 gyda mân welliannau:

  • Gosodiadau Hysbysiadau Newydd sy’n caniatáu i chi newid hysbysiadau pob blog yn unigol.
  • Hoffi (neu beidio) beth rydych yn ei weld? Gallwch nawr gyhoeddi neu ddychwelyd newidiadau lleol yn y sgrin Rhagolwg.
  • Cefnogaeth i bentwr o hysbysiadau yn Android Wear.
  • Mân newidiadau i’r Rhestr Cofnodi Darllenydd a Cofnod Darllenydd yn y sgrin manylion.
  • Modiwl newydd “Crynodeb o’r Cofnodion Diweddaraf” ar y dudalen Mewnwelediad Ystadegau.

Mae’n becyn defnyddiol iawn ar gyfer cyfansoddi ar gyfer eich blog neu wefan, darllen cynnwys pobl eraill drwy WordPress.com a chadw llygad ar ddefnydd eich gwaith. Mae’n werth ei ddefnyddio ar ffôn neu dabled Android.

Hefyd, mae fersiwn Apple iOS Cymraeg o WordPress ar y gweill, yn disgwyl datblygu peirianwaith i gymryd mantais o ddewis ehangach o ieithoedd yn iOS ers fersiwn 8. Pryd? Cyn bo hir…

WordPress 4.3

Mae un o raglenni creu gwefannau mwyaf poblogaidd newydd gael ei ddiweddaru ymhellach ac yn parhau ar gael yn Gymraeg. Hyd at ddoe cofnodwyd fod 205 o wefannau yn defnyddio’r Gymraeg, cynnydd o 50 ers y llynedd, cynnydd da felly.

Fideo am WordPress 4.3

Y cynnwys newydd…

Cyfrineiriau Amgen

Cadwch eich gwefan WordPress yn fwy diogel drwy’n dull cyfrineiriau amgen. Yn lle derbyn cyfrineiriau drwy e-bost, byddwch yn cael dolen ailosod y cyfrinair. Pan fyddwch yn ychwanegu defnyddwyr newydd i’ch gwefan neu yn golygu proffil defnyddiwr, bydd WordPress yn cynhyrchu cyfrinair diogel yn awtomatig.

Dewislenni yn y Cyfaddaswr

Crëwch ddewislen, diweddarwch hi a’i ddynodi, y cyfan tra’n gwneud rhagolwg byw yn y cyfaddaswr. Mae cynllun llyfn y cyfaddaswr yn darparu rhyngwyneb cyfeillgar a rhwydd ar gyfer dyfeisiau symudol. Gyda phob fersiwn newydd mae’n dod yn haws a chynt i wneud eich gwefan yn union fel rydych am iddi fod.

Fformatio Llwybrau Byr

Mae eich llif ysgrifennu nawr wedi cyflymu gyda llwybrau fformatio byr yn WordPress 4.3. Defnyddiwch seren i greu rhestrau ac arwyddion rhifau er mwyn gwneud pennawd. Dim torri ar eich llif gwaith; bydd eich testun yn edrych yn wych gyda * a #.Eiconau Gwefan
Mae eiconau gwefannau’n cynrychioli eich gwefan mewn tabiau porwr, dewislenni nodau tudalen ac ar dudalen cartref dyfeisiau symudol. Ychwanegwch eich eicon unigryw drwy’r cyfaddaswr; bydd yn aros yn ei le pan fyddwch y newid thema. Gwnewch i’ch gwefan gyfan adlewyrchu eich delwedd.

Profiad gweinyddu llyfnach

Mae gwelliannau i’r golwg rhestr yn yr adran weinyddu’n gwneud eich WordPress yn fwy hygyrch ac yn haws gweithio arno ar bob dyfais.

Sylwadau wedi eu diffodd ar dudalennau

Bydd sylwadau wedi eu diffodd ar bob tudalen rydych yn eu creu. Cadwch sgyrsiau i’ch blog, lle ddylent ddigwydd.

Cyfaddaswch eich gwefan yn sydyn

Pryd bynnag fyddwch ar flaen y rhaglen, gallwch glicio’r ddolen cyfaddasu yn y bar offer i wneud newidiadau sydyn i’ch gwefan.

O Dan y Clawr

Dyfodol Tacsonomiau

Mae termau wedi eu rhannu ar draws tacsonomiau lluosog yn awr yn cael eu rhannu i dermau ar wahân.

Hierarchaeth Templed

Ychwanegwyd singular.php fel copi wrth gefn ar gyfer single.php a page.php.

WP_List_Table

Mae tablau rhestr yn dynodi colofn gynradd.

WordPress Android yn Gymraeg

Mae WordPress Android yn ap sy’n caniatau gweithio o fewn gwefannau WordPress oddi ar eich ffôn Android neu dabled. Mae’n cynnwys gwefannau ar WordPress.com a rhai wedi eu hunan letya – fel Haciaith.com. Mae’r ap ar gael o Google Play.

Mae’n cynnig llawer o’r un modd i gyfansoddi a golygu a’r fersiwn ar-lein ond ar ddyfais symudol. Dim esgus rhag blogio wrth fynd!

Mae’r fersiwn iOS ar ei ffordd, hefyd. 🙂

Rhyngwyneb WordPress AndroidCofnodion WordPress AndroidCreu Tudalen WordPress Android

WordPress 4.2 yn Gymraeg

Y diweddaraf gan WordPress:

Ffordd haws o rannu cynnwys
Clipio, golygu, cyhoeddi. Ymgyfarwyddwch â’r Press This newydd a gwell. O’r ddewislen Offer, ychwanegwch Press This i’ch bar nodau tudalen yn eich porwr neu sgrin eich dyfais symudol. Unwaith mae wedi ei osod gallwch rannu eich cynnwys yn sydyn iawn. Dyw rhannu eich hoff fideos, delweddau a chynnwys erioed wedi bod mor sydyn â hawdd â hyn.

Cefnogaeth i nodau estynedig
Mae ysgrifennu yn WordPress, beth bynnag eich iaith, wedi gwella. Mae WordPress 4.2 yn cynnal ystod eang o nodau newydd, gan gynnwys nodau Tsieineaidd, Japaneaidd a Chorëaidd, symbolau cerddorol a mathemategol a hieroglyffau.

Dim y defnyddio’r nodau hyn? Gallwch dal i gael hwyl — mae emoji nawr ar gael yn WordPress!

Hyd yn oed mwy o fewnblaniadau
Gludwch ddolen o Tumblr.com a Kickstarter a gwyliwch nhw’n ymddangos fel hud o fewn y golygydd. Gyda phob fersiwn, mae eich profiad o gyhoeddi a golygu’n dod yn nes at ei gilydd.

Symleiddio diweddaru ategion
Ffarwel sgrin llwytho salw, helo diweddaru ategyn yn llyfn a syml, Cliciwch Diweddaru Nawr i wylio’r ddewiniaeth.

O Dan y Clawr

Cefnogaeth utf8mb4
Mae amgodio nod cronfa ddata wedi ei newid o utf8 i utf8mb4, sy’n ychwanegu cefnogaeth ar gyfer ystod eang o nodau 4 did.

Hygyrchedd JavaScript
Mae modd anfon negeseuon clywadwy i ddarllenwyr sgrin yn JavaScript gyda wp.a11y.speak(). Anfonwch linyn ato a bydd diweddariad yn cael ei anfon i faes hysbysiad ARIA byw penodol.

Hollti termau a rannwyd
Bydd termau sy’n cael eu rhannu ar draws tacsonomiau lluosog yn cael eu hollti pan fydd un ohonynt yn cael ei ddiweddaru. Gwelwch ragor yn y Plugin Developer Handbook.

Trefnu ymholiadau cymhleth
Mae WP_Query, WP_Comment_Query, a WP_User_Query nawr yn cynnal trefnu cymhleth gyda chymalau ymholiad meta a enwyd.

ac yn y blaen…

Mwynhewch a chrëwch gynnwys 🙂

WordPress 4.1 yn Gymraeg

Mae’r fersiwn diweddaraf ar gael un ai drwy fwrdd gwaith eich gwefan fydd yn eich annog i ddiweddaru neu o wefan Cymraeg WordPress.

Mae WordPress yn dilyn cylch ryddhau fersiwn newydd bod 3-4 mis ac felly’n cynnig cyfle i gynnig nodweddion newydd yn ogystal â chynyddu’r diogelwch. Cofiwch ddiweddaru i’r fersiwn diweddaraf er mwyn sicrhau diogelwch eich gwefan!

Cafodd 136 enghraifft o WordPress 4.0 Cymraeg eu llwytho i lawr – ymlaen i’r 150 gyda 4.1!

WordPress 4.1cy

Dyma’r blyrb swyddogol:

Thema Twenty Fifteen

Mae Twenty Fifteen, ein thema rhagosodedig diweddaraf, yn thema ar gyfer blogiau gyda’r pwyslais ar eglurder. Mae gan Twenty Fifteen gefnogaeth iaith difai, gyda chymorth gan deulu ffontiau Google Noto. Mae’r deipograffeg yn ddarllenadwy ar sgrin o unrhyw faint. Eich cynnwys sydd bwysicaf, p’un ai i’w weld ar ffôn, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur desg.

Ysgrifennu heb darfu

Weithiau mae angen canolbwyntio er mwyn troi eich syniadau’n eiriau. Nawr mae modd defnyddio’r modd ysgrifennu heb darfu. Wrth gychwyn teipio bydd pob unrhyw darfu’n dod i ben, gan eich galluogi i ganolbwyntio’n unig ar gyfansoddi. Bydd yr offer golygu’n ymddangos yn syth pan fydd eu hangen.

Y Manylder

Dewis iaith

Ar y o bryd, mae WordPress 4.1 eisoes wedi ei chyfieithu i 44 iaith, gyda rhagor ar eu ffordd. Mae modd newid i unrhyw gyfieithiad yn y sgrin Gosodiadau Cyffredinol.

Mewnblaniadau Vine

Mae mewnblannu fideos o Vine mor syml â gludo URL ar ei linell ei hun mewn cofnod. Gw. y rhestr lawn o fewnblaniadau sy’n cael eu cynnal.

Allgofnodi ym mhobman

Os ydych erioed wedi pryderu eich bod wedi anghofio i allgofnodi o gyfrifiadur rydych yn ei rannu, mae modd i chi fynd i’ch proffil ac allgofnodi ymhobman.

Argymell ategion

Mae’r gosodwr ategion yn awgrymu ategion i chi eu profi. Mae argymhellion yn seiliedig ar yr ategion rydych chi ac eraill wedi eu gosod.

O Dan y Clawr

Ymholiadau Cymhleth

Mae ymholiadau metadata, dyddiad a thermau nawr yn cynnal rhesymeg amodol uwch, fel cymalau nythol a gweithredwyr lluosog — A AND ( B OR C ).

API cyfaddaswr

Mae’r API JavaScript estynedig yn y cyfaddaswr yn galluogi profiad cyfrwng newydd yn ogystal â rheolyddion, adrannau a phaneli dynamig a chyd-destunol.

<title> tag mewn themâu

Mae add_theme_support( 'title-tag' ) yn dweud wrth WordPress sut i drin cymhlethdodau teitlau dogfennau.

Cyfeiriadaeth Datblygwr

Mae’r gwelliant parhau mewn dogfennaeth cod ar-lein yn gwneud y gyfeiriadaeth datblygwr yn fwy cyflawn nag erioed.

WordPress 4.0 yn Gymraeg

Mae Rhos Prys, cyfieithydd WordPress, yn dweud:

Beth sy’n newydd? – dyma’r blyrb gan WordPress:

Mae WordPress 4.0 yn cynnig profiad ysgrifennu a rheoli mwy llyfn.
Rheoli eich cyfrwng yn rhwydd

Gallwch weld eich cyfrwng o fewn un grid hardd hir. Mae rhagolwg manylion newydd yn ei gwneud hi’n haws edrych ar a golygu eich cyfrwng yn eu trefn.

Mae gweithio gyda mewnblaniadau yn haws nag erioed
Gludwch URL eich YouTube i linell newydd a gwyliwch e’n troi’n fideo mewnblanedig. Nawr gwnewch yr un peth gyda thrydariad. Mae mewnblannu nawr yn brofiad gweledol. Mae’r golygydd yn dangos gwir ragolwg o’ch cynnwys mewnblanedig, sy’n arbed amser a rhoi hyder i chi.

Rydym wedi ehangu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnal yn rhagosodedig, hefyd — gallwch fewnblannu fideos o CollegeHumor, rhestrau chwarae YouTube, a sgyrsiau TED. Gwiriwch y mewnblaniadau mae WordPress yn eu cynnal.

Canolbwyntio ar eich cynnwys
Mae ysgrifennu a golygu’n llyfnach a mwy cynhwysol gyda golygydd sy’n ehangu wrth i chi ysgrifennu, gan gadw’r offer fformatio ar gael drwy’r adeg.

Canfod yr ategyn cywir
Mae yna fwy na 30,000 ategyn rhad a chod agored ar gael yn y cyfeiriadur WordPress. Mae WordPress 4.0 yn ei gwneud hi’n haws i ddod o hyd i’r un sydd ei angen arnoch gyda metrig newydd, gwell chwilio a phrofiad pori mwy gweledol.

Diolch i Carl am ei help gyda hwn.