WordPress 3.8 yn Gymraeg

Mae Rhos Prys, cyfieithydd WordPress, yn dweud:

Mae fersiwn harddaf a’r mwyaf coeth o WordPress newydd ei ryddhau. […]

Os ydych yn rhedeg gwefan WordPress eisoes mi ddylech fod wedi cael hysbysiad. Mae’r cyfieithiad wedi bod ar gael ers yn hwyr neithiwr (13/12) felly os oeddech chi wedi diweddaru’n gynt mae angen ail ddiweddaru er mwyn cael y cyfieithiad cyflawn.

Mae thema newydd Twenty Fourteen hefyd wedi ei ryddhau fel rhan o’r pecyn. Mae’r thema ar ffurf gwefan cylchgrawn.

Mae nhw i gyd yn edrych yn slic iawn. 🙂

*Dwi’n ymwybodol fod yna broblemau gyda’r cyfieithiad ar y dudalen Croeso. Mwya’r brys, mwyar duon… ;-(

WordPress 3.7.1 yn Gymraeg

Mae fersiwn diweddaraf o WordPress bellach, sef 3.7.1.

Canllaw i WordPress 3.7.1.

Os ydych chi’n defnyddio WordPress.com yn Gymraeg (y fersiwn dotcom yw’r fersiwn cyflym a haws) mae popeth yn awtomatig. Does dim rhaid i chi wneud dim byd. Joiwch! Gyda llaw, dyma sut i newid eich iaith mewn WordPress.com

Os ydych chi’n rhedeg y cod o WordPress.org, ewch i WordPress Cymraeg a lawrlwythwch y cod fel zip (neu .tar.gz). Mae’r ffeiliau pwysig i gyd yn y ffolder wp-content/languages ond mwy na thebyg byddwch chi eisiau diweddaru WordPress ei hun yn ogystal â’r ffeiliau iaith.

Os ydych chi’n hoff o Subversion, fel arall rydych chi’n gallu lawrlwytho nhw trwy SVN yma.

Os ydych chi am greu gwefan Gymraeg gyda WordPress.org, ewch i WordPress Cymraeg a lawrlwythwch y feddalwedd lawn. Bydd rhaid i chi gosod y cod ar letya, cyfieirio enw parth at y lletya ayyb. (Oes galw am ganllaw o’i fath?)

Diolch

Diolch o galon i Rhos Prys am gyflawni’r cyfieithiad o WordPress. Does dim modd crynhoi faint mae Rhos fel cyfieithwr gwirfoddol (ac eraill) wedi gwneud i siaradwyr Cymraeg ar y we.

WordPress 3.5

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress newydd ei ryddhau gyda nifer dda o welliannau a thema newydd sbon. Y newid mwyaf yw’r drefn newydd ar gyfer creu orielau a llwytho lluniau i fyny ar eu cyfer. Mae’r bwrdd rheoli wedi cael ei adnewyddu i gyd-fynd â’r arddull parod ar gyfer Retina, dewisydd lluniau ac mae’r bwrdd reoli’n haws ei drin yn gyffredinol. Mae’r thema newydd ar gyfer eleni, Twenty Twelve wedi ei gynllunio i edrych yn dda ar ddyfeisiau symudol.

Rhagor o wybodaeth ar wefan WordPress