WordPress 4.6

Logo WordPressMae WordPress 4.6 yn cael ei ryddhau heddiw. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

 

Dyma sy’n newydd:

Diweddaru Llyfn

Peidiwch colli’ch lle, arhoswch ar yr un dudalen tra eich bod chi’n diweddaru, gosod, a dileu eich ategion a’ch themâu.

Ffontiau Cynhenid

Mae bwrdd gwaith WordPress nawr yn cymryd mantais o’r ffontiau sydd genych yn barod, fel ei fod yn llwytho’n gynt ac yn eich gwneud yn fwy cartrefol a pha bynnag ddyfais rydych yn ei defnyddio.

Gwelliannau Golygu

Gwirydd Dolenni Mewnlin

Erioed wedi creu dolen i http://www.ycylch.com/wordpress_3_4_beta/wordpress/wordpress.org ar ddamwain? Nawr mae WordPress yn gwirio’n awtomatig i wneud yn siŵr nawn aethoch chi hynny.

Adfer Cynnwys

Wrth i chi deipio, mae WordPress yn cadw eich cynnwys i’r porwr. Mae adfer cynnwys wedi ei gadw’n haws byth gyda WordPress .4.6.

Awgrymiadau Adnoddau

Mae awgrymiadau adnoddau gynorthwyo porwyr i benderfynu pa adnoddau i’w hestyn a’i rhagbrosesu. Bydd WordPress 4.6 yn eu hychwanegu’n awtomatig i’ch steiliau a’ch sgriptiau gan wneud eich gwefan yn hyd yn oed yn fwy cyflym.

Ceisiadau Cadernid

Mae’r API HTTP yn ehangu defnydd y llyfrgell Request, gan wella cefnogaeth safonol HTTP ac ychwanegu penynnau sy’n sensitif i lythrennau bach a mawr, ceisiadau HTTP paralel a chefnogaeth ar gyfer Enwai Parth Rhyngwladol.

WP_Term_Query a WP_Post_Type

Mae dosbarth newydd WP_Term_Query yn ychwanegu hyblygrwydd i wybodaeth ymholiad termau tra bod gwrthrych WP_Post_Type yn gwneud rhyngweithiad gyda mathau post yn fwy rhagfynegadwy.

Meta Registration API

Mae’r Meta Registration API wedi ei estyn i gynnal mathau, disgrifiadau a gwelededd REST API.

Cyfieithiadau ar Alw

Bydd WordPress yn gosod a defnyddio’r pecyn iaith ar gyfer eich ategion a themâu cyn gynted a’u bod yn barod o gymuned WordPress o gyfieithwyr.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae Masonry 3.3.2, imagesLoaded 3.2.0, MediaElement.js 2.22.0, TinyMCE 4.4.1, a Backbone.js 1.3.3 wedi eu cynnwys.

APIau’r Cyfaddaswr ar gyfer Gosod Dilysiad a Hysbysiadau

Mae gan y Gosodiadau API ar gyfer gorfodi cyfyngiadau dilysu. Hefyd, mae rheolyddion y Cyfaddaswr yn cynnal hysbysiadau sy’n cael eu defnyddio i ddangos gwallau dilysu yn lle cadw’n dawel.

Multisite, nawr yn gynt nag erioed

Mae ymholiadau gwefan cynhwysfawr a’r rhai wedi eu stori yn gwella eich profiad fel gweinyddwr rhwydwaith. Mae ychwanegu WP_Site_Query a WP_Network_Query yn gymorth i lunio ymholiadau uwch gyda llai o ymdrech.

Logo WordPress

Ystadegau WordPress 4.5

Bydd WordPress 4.6 yn cael ei lansio Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.5. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 446 o becynnau ryddhau a 3,356 pecyn iaith hyd heddiw.

Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.5 yn 250 a 3,369, felly mae rhywrai wedi bod yn brysur yn llwytho i lawr y pecyn creu/diweddaru gwefan.

Cyfanswm byd-eang WordPress 4.5 heddiw yw 44,121,925 o becynnau ryddhau a 73,775,408 pecyn iaith.

Thema WordPress Amlieithog i Gymru

Thema Amlieithog

Mae Thema wedi ei ddatblygu er mwyn galluogi unigolion i greu gwefannau amlieithog eu hunan, gyda’r gobaith o symleiddio cyhoeddi cynnwys digidol yn Gymraeg. Gall hefyd, drwy gael ei gyfieithu, alluogi amlieithrwydd tu hwnt i’r deuawd arferol o Gymraeg/Saesneg – a chael gwefannau Cymraeg/Basgeg, Cymraeg/Catalaneg, ac yn y blaen.

Mae themâu pwrpasol hefyd ar gael ar gyfer blog ac e-fasnachu

Ewch i wefan Thema.Cymru i ddysgu rhagor.

WordPress 4.5

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

Diolch i Rhoslyn Prys, Carl Morris, Iwan Stanley a Gruffudd Prys.

Dyma sy’n newydd:

Gwelliannau Golygu

Dolennu Mewnlin

Canolbwyntiwch ar eich ysgrifennu gyda rhyngwyneb fydd yn tarfu llai a sy’n caniatáu i chi gysylltu’n haws â’ch cynnwys.

Fformatio Llwybrau Byr

Ydych chi’n mwynhau defnyddio llwybrau byr fformatio ar gyfer rhestrau a phenawdau? Mae nhw nawr yn fwy defnyddiol byth, gyda llinellau llorweddol a <code>.


Gwelliannau Cyfaddasu

Rhagolwg Byw Ymatebol

Bydd eich gwefan yn edrych yn dda ar bob sgrin! Gallwch weld rhagolwg yn syth ar eich dyfais symudol, tabled a bwrdd gwaith drwy’r cyfaddaswr.

Logos Penodol

Mae themâu nawr yn gallu cynnal logos ar gyfer eich busnes neu frand. Mae themâu Twenty Fifteen a Twenty Sixteen wedi eu diweddaru i gynnal logos penodol, sydd i’w gweld yn adran Hunaniaeth Gwefan y cyfaddaswr.


O Dan y Clawr

Adnewyddu Dewisol

Mae’r cyfaddaswr nawr yn cynnal fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno rhannau o’r rhagolwg heb ailysgrifennu eich cod PHP yn JavaScript. Gallwch ei weld ar waith gyda Dewislenni.

Newid Maint Delwedd Clyfar

Mae delweddau mawr yn llwytho hyd at 50% yn gynt gyda dim colled mewn ansawdd. Mae’n edrych yn dda.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae jQuery 1.12.3, jQuery Migrate 1.4.0, Backbone 1.2.3, ac Underscore 1.8.3 wedi eu cynnwys.

Gwelliannau i’r Llwythwr Sgriptiau

Mae gwell cefnogaeth wedi ei ychwanegu ar gyfer sgriptiau dibyniaethau pennyn/troedyn. Mae’r wp_add_inline_script() newydd yn caniatáu ychwanegu cod ychwanegol i sgriptiau cofrestredig.

Ystadegau WordPress 4.4

Bydd WordPress 4.5 yn cael ei lansio yfory, felly mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.4. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 250 o becynnau ryddhau a 3,369 pecyn iaith hyd heddiw.

Mae’r cofnod ar Haciaith.com ar 19 Awst am WordPress 4.3 yn cyfeirio at y ffaith fod 205 o becynnau ryddhau wedi eu llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.2. Cynnydd felly o 45 gwefan. Does gen i ddim ffigwr ar gyfer y pecynnau iaith. Mae WordPress.org wedi ei lwytho i lawr dros 42 miliwn (42,737,524) o weithiau ym mhob iaith.

Mae cyfieithiad WordPress 4.5 wedi ei drosglwyddo i WordPress.com. Does gen i ddim data o ran defnydd y rhyngwyneb Cymraeg ar WordPress.com.

WordPress Android 5.1

Rhyngwyneb WordPress Android

Mae WordPress Android yn rhoi grym cyhoeddi yn eich dwylo chi, gan ei gwneud yn haws i greu a darllen cynnwys. Gallwch ysgrfiennu, golygu a chyhoeddi cofnodion i’ch gwfan, gwirio eich ystadegau a chael eich ysbrydoli gan gofnodion gwych y y Darllenydd.

Mae’r diweddariad yma’n gwella’r ffordd mae’r ap yn ymateb i orchmynion mewn adrannau gwahanol – Fi, Darllennydd, Sylwadau a’r sgriniau Gosodiadau Gwefan; mae newid cyfeiriadaedd a’r rhith fysellfwrdd nawr yn ymateb yn gyson.

Mae hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr sy’n ddall neu â gwelededd isel wedi ei wella drwy ddefnyddio labeli amgen.

WordPress Android 5.0

*Defnyddiwr WordPress.com? Sgriniau “Gosodiadau Gwefan” a “Fy Mhroffil” newydd sy’n caniatáu i chi newid y prif osodiadau, fel teitl eich gwefan, llinell tag a’r enw dangos cyhoeddus (ymysg eraill) – ac mae  rhagor o osodiadau newydd ar eu ffordd.

*Trwsio gwallau er mwyn gwell sefydlogrwydd wrth ychwanegu categorïau i gofnodion, edrych ar ystadegau a chyfathrebu gyda thim Cymorth WordPress.