Disgrifiad
Ysgrifennu unwaith, cyhoeddi ym mhobman.
Rhannwch hyd at 30 gwaith y mis am ddim gyda Jetpack Social, ac uwchraddiwch i rannu cymaint o weithiau ag yr hoffech chi!
Tyfwch eich dilynwyr trwy rannu’ch cynnwys â Jetpack Social!
Mae’n bwysig cyhoeddi ar eich gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd eich cynulleidfa gyfan. Os ydych chi’n cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yn unig, rydych chi’n colli hyd at 60% o oedolion bob dydd. Mae Jetpack Social yn ei gwneud hi’n hawdd rhannu cofnodion eich gwefan yn awtomatig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol poblogaidd fel Facebook a Twitter. Cynyddwch eich cynulleidfa trwy ymgysylltu â gwylwyr eich gwefan a’ch eich dilynwyr cymdeithasol.
Rheoli pob sianel o un man canol er mwyn arbed amser
Dim amser i gadw i fyny â chyfryngau cymdeithasol? Mae Jetpack Social yn gwthio cofnodiadau a chynnyrch eich gwefan i’ch holl sianeli cyfryngau cymdeithasol mewn un lle, gyda dim ond ychydig o gliciau.
Gosod ac anghofio!
Mae gan Jetpack Social offer amserlennu sy’n eich galluogi i osod eich cofnodion i’w cyhoeddi ar yr amser a’r diwrnod sy’n gweithio i’ch cynllun. Trefnwch eich cofnodiadau ymlaen llaw fel nad ydych wedi’ch cadwyno i’ch desg a chyhoeddwch yr adeg o’r dydd y mae eich cefnogwyr yn ymgysylltu fwyaf ar gyfryngau cymdeithasol.
Lluniau Sgrin
Gosod
Gosod
Yr dewis cyntaf yw gosod Jetpack Social o fewn eich Gweinyddwr WP.
- I ddechrau, cliciwch ar y ddolen Ategion yn y bar ochr chwith, yna cliciwch ar Ychwanegu.
- Chwiliwch am Jetpack Social. Bydd y fersiwn diweddaraf yn y canlyniadau chwilio. Cliciwch ar y botwm Gosod Nawr.
- Nesaf, cliciwch ar y botwm Gweithredu. Ar ôl gweithredu, gallwch lywio i “Jetpack → Social” yn eich ardal weinyddol.
Dewisiadau Eraill â Llaw
Fel arall, gosodwch Jetpack Social trwy’r cyfeiriadur ategyn, neu lwythwch y ffeiliau â llaw i’ch gweinydd a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Gyda 💚 gan Jetpack
Dim ond y dechrau yw hyn!
Rydym yn gweithio’n galed i ddod â mwy o nodweddion a gwelliannau i Jetpack Social. Rhowch wybod i ni eich awgrymiadau a’ch syniadau!
Cwestiynau Cyffredin
-
O Weinyddiaeth WP eich gwefan:
- Llywiwch i Jetpack → Social.
- Cliciwch ar y botwm Rheoli Cysylltiadau.
- Cliciwch Cysylltu wrth ymyl y rhwydwaith cymdeithasol rydych chi am gysylltu ag ef.
- Mewngofnodwch i’r wefan rhwydwaith cymdeithasol honno ac awdurdodwch y cysylltiad.
Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’r rhwydweithiau canlynol:
- Tudalennau Facebook
- Tumblr
Ar ôl i chi ychwanegu cysylltiad newydd, mae gennych y dewis o wneud y cysylltiad yn un ‘eang’, sy’n golygu y gall unrhyw ddefnyddiwr arall ar eich gwefan sydd â’r gallu i gyhoeddi cofnodion ei ddefnyddio hefyd.
I wneud y cysylltiad ar gael i bob defnyddiwr, ticiwch y blwch sydd wedi’i labelu “Cysylltiad ar gael i bob gweinyddwr, golygydd, ac awdur”.
-
Gallwch gofnodi i Facebook, Twitter, Tumblr, a Linkedin. Rydym yn gweithio’n galed i gynyddu ein integreiddio rhannu gymdeithasol.
-
I ffurfweddu’r dewisiadau Cyhoeddwr wrth ysgrifennu cofnod newydd, cliciwch yr eicon Jetpack gwyrdd ar frig y bar ochr golygu ar y dde.
Yna fe welwch y dewisiadau Hysbysebu o dan yr adran Rhannu’r cofnodiad hwn, lle gallwch chi doglo cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol, cysylltu gwasanaethau newydd, ac ysgrifennu neges wedi’i haddasu i’w defnyddio pan fydd eich cofnod yn cael ei rannu.
-
Y ffordd hawsaf yw defnyddio’r dewis Neges Gyfaddas yn y blwch dewisiadau cyhoeddi cyn cyhoeddi’ch cofnod.
Adolygiadau
Contributors & Developers
“Jetpack Social” is open source software. The following people have contributed to this plugin.
Cyfranwyr“Jetpack Social” has been translated into 18 locales. Thank you to the translators for their contributions.
Translate “Jetpack Social” into your language.
Interested in development?
Browse the code, check out the SVN repository, or subscribe to the development log by RSS.
Cofnod Newid
1.6.0 – 2023-01-10
Added
- Ychwanegu anogwr cais am adolygiad ar gyfer ategyn Jetpack Social.
- Ychwanegu prawf JS React syml.
- Ychwanegu’r adminUrl i gyflwr cychwynnol y golygydd.
- Ailgyfeirio i’r dudalen weinyddol ar weithredu ategyn, ac ychwanegu dolen i’r dudalen weinyddol o’r dudalen ategion.
Changed
- Diweddarwyd dibyniaethau’r pecynnau.