Crëwyd Geiriadur Termau WordPress er mwyn helpu gyda’r gwaith o gyfieithu WordPress drwy sicrhau fod y termau’n gyson ac yn adlewyrchu’r cysyniad.
Mae modd chwilio’r Geiriadur er mwyn dod o hyd i’r termau safonol a ddefnyddwyd wrth gyfieithu WordPress i’r Gymraeg. Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol i’r rhai sy’n bwriadu creu themâu neu ategion eu hunain ac sydd eisiau sicrhau fod y termau maen nhw’n eu denyddio yn gyson gyda’r termau sydd yn system WordPress ei hunan.
Datblygwyd Geiriadur Termau WordPress yn Maes-T, sef rhyngwyneb datblygu geiriaduron Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor. Os hoffech chi gyfrannu sylwadau ar y termau, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni greu cyfrif cyfrannwr i chi ar gyfer Geiriadur Termau WordPress.