Platfform Cyhoeddi Personol Semantegol
Croeso. Mae WordPress yn brosiect arbennig iawn i mi. Mae pob datblygwr a chyfrannwr yn dod â rhywbeth unigryw at y tîm, a gyda’n gilydd ry’n ni’n creu rhywbeth prydferth rwy’n falch o fod yn rhan ohono. Mae miloedd o oriau o waith wedi creu WordPress, a ry’n ni’n benderfynol o’i wella pob diwrnod. Diolch am fod yn rhan o’n byd ni.
— Matt Mullenweg
wp-config-sample.php
gyda golygydd testun fel WordPad neu tebyg, a rho manylion dy gysylltiad cronfa ddata.wp-config.php
admin
a’r cyfrinair crewyd yn ystod yr arsefydliad. Gelli di wedyn glicio ar ‘Proffeil’ i newid dy gyfrinair.Cyn i ti uwchraddio unrhywbeth, gwna’n siwr bod gen ti gopïau wrth gefn o unrhyw ffeiliau rwyt ti wedi newid, fel index.php
.
Os wyt ti wedi addasu dy templadau bydd rhaid i ti wneud ychydig o newidiadau iddyn nhw, siwr o fod. Os wyt ti’n trosi dy dempladau o 1.2 neu cynt, mae arweiniad arbennig i ti.
Os oes gen ti gwestiynau sydd heb eu hateb gan y ddogfen hon, cymra fantais o’r amryw o adnoddau WordPress ar-lein:
WordPress yw’r parhâd swyddogol i b2/cafélog, ddaeth o Michel V. Mae’r gwaith yn cael ei barhau gan ddatblygwyr WordPress. Os hoffet ti gefnogi WordPress, ystyria rhoi rhodd os gweli di’n dda.
Mae WordPress yn gallu mewnforio o nifer o systemau. Y cam cyntaf yw arsefydlu WordPress yn ôl y disgrifiadau uchod.
Rwyt ti nawr yn gallu postio i dy flog WordPress gyda theclynnau fel Ecto, BlogBuddy, Bloggar, WapBlogger (postio o dy ffôn-lôn Wap!), Radio Userland (gallet ti ddefnyddio eu nodwedd e-bost-i-flog), Zempt, NewzCrawler, a sawl teclyn arall sy’n cefnogi’r APIs Blogio! :) Darllena mwy am gefnogaeth XML-RPC ar y Codex.
Rwyt ti’n gallu postio cofnod o gleient e-bost! I osod hyn, cer at dy sgrîn ddewisiadau “Ysgrifennu” a rho fanylion cysylltu dy gyfrif POP3 cyfrinachol. Yna rhaid i ti osod wp-mail.php
i redeg bob hyn a hyn i chwilio am negeseuon newydd yn dy flwch post. Gallet ti ddefnyddio Cron i wneud hyn, neu os nad yw dy letywr yn cefnogi hynny, edrycha ar y gwasanaethau monitro gwefannau, a’u cael nhw i wirio’r URL wp-mail.php
.
Mae postio yn hawdd: Bydd unrhyw neges at y cyfeiriad dewiswyd gen ti yn cael ei bostio, gyda’r pwnc fel y teitl. Mae’n well cadw’r cyfeiriad yn gyfrinachol. Bydd y sgript yn dileu e-byst a bostiwyd yn llwyddiannus.
Rwyt ti’n gallu caniatáu neu wahardd cofrestru defnyddwyr yn dy Ddewisiadau Ysgrifennu. Os dewiswyd “Defnyddwyr sydd newydd gofrestru ddim yn gallu ysgrifennu cofnodion” rhaid i ti godi lefel defnyddwyr newydd i’w halluogi i bost. Rho glec ar yr arwydd plws ger eu henwau ar y dudalen Users page.
Fel arfer, bydd di eisiau tîm o ddefnyddwyr lefel 1, ar wahân i ti dy hun.
Does gan WordPress ddim ymgyrch farchnata gwerth miliynau o bunnoedd na noddwyr enwog, ond mae gennym ni rhywbeth gwell fyth — ti. Os wyt ti’n mwynhau WordPress ystyria dweud wrth ffrind, neu gosod copi i rywun llai gwybodus na thi, neu ysgrifennu erthygl yn y cyfryngau sy’n sôn amdanom ni.
Rhyddheir WordPress dan y GPL (gweler trwydded.txt neu license.txt).