WordPress
Fersiwn 1.5.2

Platfform Cyhoeddi Personol Semantegol

Cyn Cychwyn...

Croeso. Mae WordPress yn brosiect arbennig iawn i mi. Mae pob datblygwr a chyfrannwr yn dod â rhywbeth unigryw at y tîm, a gyda’n gilydd ry’n ni’n creu rhywbeth prydferth rwy’n falch o fod yn rhan ohono. Mae miloedd o oriau o waith wedi creu WordPress, a ry’n ni’n benderfynol o’i wella pob diwrnod. Diolch am fod yn rhan o’n byd ni.

— Matt Mullenweg

Arsefyldu: yr arsefydliad 5-munud enwog

  1. Dad-sipia’r pecyn mewn ffolder gwag.
  2. Agora wp-config-sample.php gyda golygydd testun fel WordPad neu tebyg, a rho manylion dy gysylltiad cronfa ddata.
  3. Cadwa’r ffeil fel wp-config.php
  4. Fynylwytha popeth.
  5. Lawnsia /wp-admin/install.php yn dy borydd. Dylai hyn gosod y tablau sydd eu hangen ar gyfer dy flog. Os oes gwall, gwiria dy ffeil wp-config.php, a cheisia eto. Os yw’n methu eto, cer at y fforymau cymorth gyda chymaint o wybodaeth ag sy’n bosib i ti gasglu.
  6. Noda’r cyfrinair rhoddwyd i ti.
  7. Dylai’r sgript arsefydlu dy anfon at y dudalen fewngofnodi wedyn. Mewngofnoda gyda’r enw defnyddiwr admin a’r cyfrinair crewyd yn ystod yr arsefydliad. Gelli di wedyn glicio ar ‘Proffeil’ i newid dy gyfrinair.

Uwchraddio

Cyn i ti uwchraddio unrhywbeth, gwna’n siwr bod gen ti gopïau wrth gefn o unrhyw ffeiliau rwyt ti wedi newid, fel index.php.

Uwchraddio o unrhyw fersiwn blaenorol o WordPress i 1.5:

  1. Dileu dy hen ffeiliau WP, gan gadw’r rhai rwyt ti wedi newid
  2. Fynylwytha’r ffeiliau newydd
  3. Cyfeiria dy borydd at /wp-admin/upgrade.php
  4. Oeddet ti eisiau mwy? Dyna hi!

Newidiadau Templad

Os wyt ti wedi addasu dy templadau bydd rhaid i ti wneud ychydig o newidiadau iddyn nhw, siwr o fod. Os wyt ti’n trosi dy dempladau o 1.2 neu cynt, mae arweiniad arbennig i ti.

Adnoddau Ar-lein

Os oes gen ti gwestiynau sydd heb eu hateb gan y ddogfen hon, cymra fantais o’r amryw o adnoddau WordPress ar-lein:

Codex WordPress
Y Codex yw’r gwyddoniadur o bopeth yn ymwneud â WordPress. Dyma’r ffynhonnell fwyaf o wybodaeth WordPress sydd ar gael.
Y Blog Datblygu
Dyma’r lle i ganfod diweddariadau a newyddion ynglyn â WordPress. Rho’r cyfeiriad yn dy nodlyfrau a’i ddefnyddio’n aml.
Planed WordPress
Mae’r Planed WordPress yn gasglydd newyddion sy’n dod â chofnodion o flogiau WordPress ar draws y byd at ei gilydd.
Fforymau Cymorth WordPress
Os wyt ti wedi chwilio ymhobman a methu cael ateb, mae’r fforymau cymorth yn brysur iawn, gyda chymuned fawr sy’n barod i gynorthwyo. I’w helpu nhw i dy helpu di, defnyddia teitl disgrifiadol i dy edefyn a disgrifia dy gwestiwn gyda chymaint o fanylion ag sy’n bosib.
Sianel IRC WordPress
Yn olaf, mae yna sianel sgwrsio ar-lein ar gyfer trafodaeth ymysg pobl sy’n defnyddio WordPress gan gynnwys pynciau cymorth weithiau. Dylai’r dudalen wici uchod dy rhoi di ben ffordd. (irc.freenode.net #wordpresss)

Argymhellion System

WordPress yw’r parhâd swyddogol i b2/cafélog, ddaeth o Michel V. Mae’r gwaith yn cael ei barhau gan ddatblygwyr WordPress. Os hoffet ti gefnogi WordPress, ystyria rhoi rhodd os gweli di’n dda.

Uwchraddio o system arall

Mae WordPress yn gallu mewnforio o nifer o systemau. Y cam cyntaf yw arsefydlu WordPress yn ôl y disgrifiadau uchod.

Rhyngwyneb XML-RPC

Rwyt ti nawr yn gallu postio i dy flog WordPress gyda theclynnau fel Ecto, BlogBuddy, Bloggar, WapBlogger (postio o dy ffôn-lôn Wap!), Radio Userland (gallet ti ddefnyddio eu nodwedd e-bost-i-flog), Zempt, NewzCrawler, a sawl teclyn arall sy’n cefnogi’r APIs Blogio! :) Darllena mwy am gefnogaeth XML-RPC ar y Codex.

Postio trwy E-bost

Rwyt ti’n gallu postio cofnod o gleient e-bost! I osod hyn, cer at dy sgrîn ddewisiadau “Ysgrifennu” a rho fanylion cysylltu dy gyfrif POP3 cyfrinachol. Yna rhaid i ti osod wp-mail.php i redeg bob hyn a hyn i chwilio am negeseuon newydd yn dy flwch post. Gallet ti ddefnyddio Cron i wneud hyn, neu os nad yw dy letywr yn cefnogi hynny, edrycha ar y gwasanaethau monitro gwefannau, a’u cael nhw i wirio’r URL wp-mail.php.

Mae postio yn hawdd: Bydd unrhyw neges at y cyfeiriad dewiswyd gen ti yn cael ei bostio, gyda’r pwnc fel y teitl. Mae’n well cadw’r cyfeiriad yn gyfrinachol. Bydd y sgript yn dileu e-byst a bostiwyd yn llwyddiannus.

Lefelau Defnyddwyr

Rwyt ti’n gallu caniatáu neu wahardd cofrestru defnyddwyr yn dy Ddewisiadau Ysgrifennu. Os dewiswyd “Defnyddwyr sydd newydd gofrestru ddim yn gallu ysgrifennu cofnodion” rhaid i ti godi lefel defnyddwyr newydd i’w halluogi i bost. Rho glec ar yr arwydd plws ger eu henwau ar y dudalen Users page.

Lefelau Defnyddwyr

Fel arfer, bydd di eisiau tîm o ddefnyddwyr lefel 1, ar wahân i ti dy hun.

Nodiadau olaf

Rhanna’r Cariad

Does gan WordPress ddim ymgyrch farchnata gwerth miliynau o bunnoedd na noddwyr enwog, ond mae gennym ni rhywbeth gwell fyth — ti. Os wyt ti’n mwynhau WordPress ystyria dweud wrth ffrind, neu gosod copi i rywun llai gwybodus na thi, neu ysgrifennu erthygl yn y cyfryngau sy’n sôn amdanom ni.

Hawlfraint

Rhyddheir WordPress dan y GPL (gweler trwydded.txt neu license.txt).