Sut mae mynd ati

Mae WordPress yn nodedig am fod yn hawdd a chyflym iawn i’w osod, gyda’r broses osod enwog yn para pum munud yn unig!

Dyma gyfarwyddiadau cryno:

  1. Y cam cyntaf yw dewis Lletywr Gwe (Web Host) er mwyn cael rhywle i osod y wefan WordPress.

  2. Yn ail, lawrlwythwch becyn WordPress ac yna defnyddio FTP i’w osod ar y gweinydd mae eich Letywr Gwe wedi ei ddarparu. Byddwch yn synnu mor hawdd yw creu gwefan gyda chymaint o nodweddion defnyddiol.

  3. Darllenwch y ddogfennaeth er mwyn dod yn arbenigwr WordPress go-iawn. Byddwn ni’n ceisio ychwanegu at y ddogfennaeth Gymraeg yn fuan.

Os ydi hyn i gyd yn swnio’n rhy gymhleth, mae WordPress.com yn darparu gwefannau sylfaenol wedi’u lletya yn rhad ac am ddim ac yn Gymraeg. Mae’n fan cychwyn da ar gyfer dechreuwyr, ac mae modd symud draw i ddefnyddio WordPress.org yn hawdd wrth i’ch hyder ac anghenion gynyddu.