Source Code

Os hoffech chi bori trwy'r ffynhonnell WordPress a'r ddogfennaeth fewnol, mae gennym gyfeirnod datblygwr cyfleus a porwr cod . Mae gennym hefyd ganllawiau ar gyfer cyfrannu gyda Subversion a chyfrannu gyda Git .

Mae modd pori'r ffynhonnell WordPress adeiledig, sydd wedi'i thrwyddedu o dan fersiwn 2 Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU (neu'n hwyrach), ar-lein neu ei estyn yn lleol gyda Subversion neu Git:

  • Subversion: https://core.svn.wordpress.org/
  • Drych git: git://core.git.wordpress.org/

Mae WordPress yn lleihau ffeiliau JavaScript craidd gan ddefnyddio UglifyJS a CSS gan ddefnyddio clean-css, i gyd trwy'r rhedwr tasgau Grunt JavaScript. Mae modd pori'r ffynhonnell ddatblygu sy'n cynnwys fersiynau heb eu lleihau o'r ffeiliau hyn, ynghyd â'r sgriptiau adeiladu, ar-lein neu eu hestyn yn lleol gyda Subversion neu Git:

  • Subversion: https://develop.svn.wordpress.org/
  • Drych git: git://develop.git.wordpress.org/

Mae modd cael y cod ffynhonnell ar gyfer unrhyw god rhaglen neu sgriptiau allanol sy'n cael eu cynnwys gyda WordPress yn rhydd o'n storfa ffynonellau .