Disgrifiad
Y diogelwch orau rhag sbam er mwyn rwystro sylwadau sbam a sbam mewn ffurflenni cyswllt. Yr ateb gwrth-spam mwyaf dibynadwy ar gyfer WordPress a WooCommerce.
Mae Akismet yn gwirio’ch sylwadau a’ch cyflwyniadau ffurflen gyswllt yn erbyn ein cronfa ddata fyd-eang o sbam i atal eich gwefan rhag cyhoeddi cynnwys maleisus. Gallwch adolygu’r sbam sylwadau y mae’n ei ddal ar sgrin weinyddol “Sylwadau” eich blog.
Mae nodweddion amlycaf Akismet yn cynnwys:
- Yn gwirio’r holl sylwadau yn awtomatig ac yn hidlo’r rhai sy’n edrych fel sbam.
- Mae gan bob sylw statws hanes, felly gallwch chi weld yn hawdd pa sylwadau gafodd eu dal neu eu clirio gan Akismet a pha rai gafodd eu sbamio neu heb eu sbamio gan gymedrolwr.
- URLs yn cael eu dangos yng nghorff sylwadau i ddatgelu dolenni cudd neu gamarweiniol.
- Gall cymedrolwyr weld nifer y sylwadau cymeradwy ar gyfer pob defnyddiwr.
- Nodwedd diystyru sy’n rhwystro’r sbam gwaethaf yn llwyr, gan arbed lle ar y ddisg i chi a chyflymu’ch gwefan.
ON: Rydym yn eich annog i gael allwedd API Akismet.com i’w ddefnyddio, ar ôl ei agor. Mae allweddi am ddim ar gyfer blogiau personol; mae tanysgrifiadau taledig ar gael i fusnesau a gwefannau masnachol.
Gosod
Llwythwch yr ategyn Akismet i’ch blog, ei agor, ac yna cyflwyno eich allwedd API Akismet.com.
1, 2, 3: A dyna ni!
Adolygiadau
Contributors & Developers
“Akismet Gwrth-Sbam: Diogelwch Rhag Sbam” is open source software. The following people have contributed to this plugin.
Cyfranwyr“Akismet Gwrth-Sbam: Diogelwch Rhag Sbam” has been translated into 72 locales. Thank you to the translators for their contributions.
Translate “Akismet Gwrth-Sbam: Diogelwch Rhag Sbam” into your language.
Interested in development?
Browse the code, check out the SVN repository, or subscribe to the development log by RSS.
Cofnod Newid
5.1
Dyddiad Ryddhau – 20 Mawrth 2023
- Wedi tynnu rhybuddion terfyn diangen o’r dudalen gweinyddu.
- Gwell canfod sbam o gynnwys tacsonomi cofnod yng ngalwad gwirio sylw.
- Wedi tynnu allweddi API o ifframiau ystadegau er mwyn osgoi’r posibiliad o ddinoethiad damweiniol.
5.0.2
Dyddiad Ryddhau – 1 Rhagfyr 2022
- Gwell cydnawsedd gyda themâu sy’n cuddio neu ddangos elfennau o’r UI ar sail symudiadau llygoden.
- Gwell diogelwch allweddi API drwy eu hanfon mewn cyrff gofyn yn lle is-barthau.
5.0.1
Dyddiad Ryddhau – 28 Medi 2022
- Wedi ychwanegu cyflwr gwag ar gyfer yr adran Ystadegau ar y dudalen weinyddol.
- Wedi cywiro gwall oedd yn torri rhai dolenni tudalennau gweinyddol pan mae ategion Jetpack yn weithredol.
- Wedi marcio rhai gwrandawyr digwyddiadau fel goddefol er mwyn gwella perfformiad mewn porwyr newydd.
- Wedi analluogi arsylwi ar ffurflenni sy’n cofnodi i barthau eraill.
5.0
Dyddiad Ryddhau – 26 Gorffennaf 2022
- Ychwanegwyd nodwedd newydd i ddal sbamwyr drwy wylio sut maen nhw’n rhyngweithio gyda’r dudalen.
4.2.5
Dyddiad Ryddhau – 11 Gorffennaf 2022
- Wedi trwsio gwall oedd yn ychwanegu cofnodion hanes diangen ar ôl gwiriadau sylwadau.
- Ychwanegwyd hysbysiad sy’n dangos pan fod WP-Cron wedi’i analluogi ac efallai’n effeithio ar ailwirio sylwadau.
4.2.4
Dyddiad Ryddhay – 20 Mai 2022
- Gwell cyfarwyddiadau ar gyfer hanes sylwadau.
- Symudwyd y tag “Profwyd hyd at” i WP 6.0.
4.2.3
Dyddiad Ryddhau – 25 Ebrill 2022
- Gwell cydnawsedd â FluentForms
- Wedi trwsio parthau cyfieithu coll
- URL ystadegau wedi’u diweddaru.
- Gwell hygyrchedd elfennau ar y dudalen ffurfweddu.
4.2.2
Dyddiad Ryddhau – 24 Ionawr 2022
- Gwell cydnawsedd â Formidable Forms
- Wedi trwsio gwall a allai achosi problemau pan fydd ffurflenni cyswllt lluosog yn ymddangos ar un dudalen.
- Camau gweithredu delete_comment a deleted_comment wedi’u diweddaru i basio dau ymresymiad i gyd-fynd â chraidd WordPress ers 4.9.0.
- Wedi ychwanegu hidl sy’n caniatáu i fathau o sylwadau gael eu heithrio wrth gyfrif sylwadau cymeradwy defnyddwyr.
4.2.1
Dyddiad Ryddhau – 1 Hydref 2021
- Wedi trwsio gwall gan achosi i ddilysiad AMP fethu ar rai tudalennau sy’n cynnwys ffurflenni.
4.2
Dyddiad Ryddhau – 30 Medi 2021
- Ychwanegwyd dolenni at wybodaeth ychwanegol am hysbysiadau defnydd API.
- Wedi lleihau nifer y ceisiadau rhwydwaith sydd eu hangen ar gyfer tudalen sylwadau wrth redeg Akismet.
- Gwell cydnawsedd â’r ategion ffurflen gyswllt fwyaf poblogaidd.
- Gwell botymau defnydd API i egluro pa uwchraddio sydd ei angen.
Ar gyfer cofnodion cofnod newid hŷn, gweler y ffeil changelog.txt ychwanegol a sy’n cael ei ddarparu gyda’r ategyn.